P-05-701 – Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Maldwyn Lewis ar ôl casglu 99 llofnod ar lein a 750 llofnod bapur

Geiriad y ddeiseb

Yn dilyn digwyddiadau niferus ar hyd cefnffordd yr A487 yn enwedig rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, cyflwynaf ddeiseb i Cynulliad Cymru i wneud gwelliannau ar hyd y ffordd arfordirol hon, yn cynnwys mannau pasio mewn amrywiol leoliadau, er mwyn lliniaru traffig yn cronni y tu ôl i gerbydau araf. Rwyf o’r farn y byddai cael mannau pasio wedi’u lleoli mewn lleoedd strategol yn lleihau rhwystredigaeth gyrwyr a chymryd risgiau wrth geisio goddiweddyd cerbydau eraill.

Pan fydd y gefnffordd hon rhwng Abergwaun a Chaergybi wedi’i chau o ganlyniad i ddigwyddiad, mae’r dargyfeiriad ar hyd isffyrdd a all fod yn hunllefus, yn enwedig pan fydd Cerbydau Nwyddau Trwm, bysiau a choetsis yn cwrdd â’i gilydd wrth ddod o gyfeiriadau gwahanol.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ceredigion

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru